Ysgol Iach
Y flwyddyn hon, mae’r ysgol yn gweithio tuag at Cam 5 y cynllun. Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn edrych ar iechyd a lles plant, staff a sut mae’r gymuned ehangach yn effeithio ar hynny.
Prif bwyntiau’r cynllun yw cysylltiadau’r gyda’r gymuned, bwyta’n iach, iechyd a lles staff a phlant, hunan-werth plant, ffitrwydd, yr amgylchedd, diogelwch personol, camddefnyddio sylweddau, ysmygu ac addysg bywyd.
Mae nosweithiau cwricwlaidd wedi bod yn gyfleoedd euraidd i gyflwyno llawer o waith y cynllun i’r rhieni a’r gymuned.
07/02/19
Fe gawsom ni wersi Dawnsio Gwerin yn ein gwers ymarfer corff heddiw fel rhan o'n gwaith themau ar Gymru. Fe ddysgom ni dawns y 'Jac Do' mewn hanner awr! Mae Mrs Hughes a Miss Morris wedi dychryn ein bod wedi perfformio wedi cyn lleied o ymarfer!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cliciwch yma i weld y clip fideo 1af
Cliciwch yma i weld y clip fideo 2il
Cliciwch yma i weld y clip fideo 3ydd
04/02/19
Dyma'r criw a fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth athletau Sportshall yng nghanolfan chwaraeon Brailsford ym Mangor heddiw.
Pawb wedi mwynhau'n arw!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
21/01/19
Dyma'r criw brwdfrydig a fu'n cynyrchioli'r ysgol yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd heddiw. Da iawn chi, mae'r ysgol yn hynod falch ohonoch!
30/11/18
Dyma griw o ddisgyblion o'r Cyngor ysgol a Cyngor chwaraeon yn dysgu gemau buarth i weddill disgyblion yr ysgol er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg ar y iard ac yn ogystal er mwyn sicrhau ysgol sy'n ffit ac yn iach.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
23/11/18
Dyma gyflwyniad gan ddisgyblion Glyder Fach ar ddiogelwch y wê. Mae'r cyflwyniad wedi anelu at ddisgyblion a rhieni. Mwynhewch!
21/11/18
Diolch yn fawr i PC Owain am ei gyflwyniad a'i waith gyda'r plant am gyffuriau ac alcohol y bore'ma. Roedd pawb yn gwrando'n astud a phawb wedi mwynhau'r sesiwn yn fawr iawn!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/11/18
Dyma'r criw a fu'n cystadlu yn Gala Nofio'r urdd dros y penwythnos! pawb wedi mwynhau'r cystadlu, da iawn chi!
19/07/18
Dyma griw blwyddyn 5 yn mentro i Gwm Idwal heddiw!Am ddiwrnod gwych! Pawb wedi mwynhau y golygfeydd godidog a chael dysgu mwy am Gwm Idwal wrth i ni gael ein tywys ar y daith gan Morfudd, Cemlyn a Nathan! Pawb wedi bod yn wych, a prin dim cwyno am y cerdded!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
15/03/18
Llongyfarchiadau mawr i'r criw am nofio mor dda yn y Gala Ysgolion mawr ym mhwll nofio Bangor heddiw! Cafwyd Gala llwyddiannus iawn a phawb wedi ymddwyn yn wych!
08/02/17
Da iawn chi am gynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth athletau Sportshall heddiw! Pawb wedi perfforimio'n wych!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
19/11/16
Dyma’r criw a fu’n cynrychioli’r ysgol yng ngala nofio’r Urdd y dydd Sadwrn diwethaf ym mhwll nofio Bangor!
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd ar nofio mor wych a diolch i bawb am wneud yr ymdrech ac am ymddwyn cystal ar y diwrnod!
© 2022 - Cynlluniwyd gan Plant Pesda ~ Gwefan gan Delwedd