Archif Lluniau 2018-19
25/06/19
Cawsom brynhawn blasu yn y dosarth. Yn ein gwersi Dylunio a Technoleg y tymor yma rydym wedi bod yn cynllunio brechdan iachus ar gyfer picnic mor- ladron. Bwriad y blasu oedd adnabod hoff lenwad a bara y plant a chael pleidleisio. Yn yr wythnesau nesaf bydd y plant yn cael cyfle i greu brechdan eu hunain gan ddilyn eu briff a'r gwaith cynllunio.
Diolch yn fawr iawn i Tesco Bethesda am eu rhodd caredig unwaith eto wrth gyfrannu'r bwyd. Rydym yn hynod ddiolchgar. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dyma aelodau'r Grwp Gwyrdd gyda’g cyn-aelodau sy’n parhau fel aelodau er mwyn pasio'u doethineb a gwybodaeth ymlaen!
Gwaith y Grŵp Gwyrdd yw sicrhau bod yr ysgol yn cael effaith mor bositif â phosib ar yr amgylchedd, a hynny drwy ail-gylchu, arbed egni ac arbed dŵr.
Prif nod y Grŵp Gwyrdd y flwyddyn hon ydi arbed egni. Mae aelodau’r grŵp wedi bod yn brysur yn cynnal gwasanaethau a chreu pamffledi a phosteri er mwyn addysgu pawb ynglŷn â phwysigrwydd arbed egni a sut mae gwneud. Maent wedi dewis marsialiaid egni o bob dosbarth i’w helpu fonitro pob dosbarth i weld os ydynt yn arbed egni drwy ddiffodd goleuadau ac offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Does dim rhyfedd bod yr ysgol wedi cael y Wobr Aur gyda’r Cynllun Ysgolion Gwyrdd ers 8 mlynedd!
09/04/19 Casglu ‘sbwriel
Dan arweiniad Esyllt Williams, Swyddog Eco Ysgolion Cymru, aeth dosbarth Glyder draw am Hen Chwarel Pantdreiniog i gasglu ‘sbwriel. Mewn hanner awr fe gasglwyd cyfanswm o 39.5KG o ‘sbwriel. Casglwyd rhan helaeth o eitemau y gellir wedi’u hail-gylchu! Neges bwysig i drigolion Pesda gan blant Glyder yw ‘’Rhowch eich ‘sbwriel mewn bin, a sicrhewch ei fod yn mynd i’r bin cywir! Diolch!’’.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/10/18
Dyma ein Eco God cyfredol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/09/18
Dyma aelodau'r grwp Eco eleni, 2018-2019.
16/07/19
Diolch mawr i Tim Matthews, Beicio Cymru, sydd wedi bod yn cynnal sesiynau sgiliau beicio gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 dros gyfnod o 6 wythnos. Roedd yn darparu’r beics yn ogystal ag helmedau i bob disgybl. Bu i bawb fwynhau’r sesiynau’n fawr iawn, yn enwedig y cystadleuaeth limbo!!
21/01/19
Dyma'r criw brwdfrydig a fu'n cynyrchioli'r ysgol yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd heddiw. Da iawn chi, mae'r ysgol yn hynod falch ohonoch!
30/11/18
Dyma griw o ddisgyblion o'r Cyngor ysgol a Cyngor chwaraeon yn dysgu gemau buarth i weddill disgyblion yr ysgol er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg ar y iard ac yn ogystal er mwyn sicrhau ysgol sy'n ffit ac yn iach.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/11/18
Dyma'r criw a fu'n cystadlu yn Gala Nofio'r urdd dros y penwythnos! pawb wedi mwynhau'r cystadlu, da iawn chi!
Dyma'n Cyngor Chwaraeon ni! Maent wedi dechrau'n barod ar eu gwaith caled gyda Mrs Hughes. Edrychwn ymlaen at eich gwaith o gadw plant Ysgol Pen-y-bryn yn heini!
Sefydlwyd y Cyngor Chwaraeon yn dilyn cyswllt gydag ysgolion yn Indonesia drwy gynllun gan y Cyngor Prydeinig adeg Olympics Llundain, 2012. Pwrpas gwreiddiol y grwp oedd i gyd-weithio gydag Ysgol Dyffryn Ogwen a’r ysgolion cyswllt yn Indonesia i hybu ffitrwydd ac i ysbrydoli plant, sef ymgyrch gan yr Olympics. Mae’r Cyngor Chwaraeon yn meddwl trwy’r amser am ffyrdd cyffrous i gael plant yn frwdfrydig am chwaraeon ac yn fuan iawn fe fyddant yn cynnal sesiynau Campau’r Ddraig gyda Mrs Hughes ar ôl ysgol.
17/07/19
Dyma griw o ddisgyblion blwyddyn 4 yn dod ynghyd â rhai o ddisgyblion ysgolion y dalgylch i gydweithio, cyfansoddi, perfformio a recordio can/anthem siarter iaith y dalgylch yn Neuadd Ogwen y bore ma. Pawb wedi joio, yn enwedig y profiad o recordio a gwisgo'r clustffonau!!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
05/06/19
Dyma ni wrthi’n llunio cytundeb ar gyfer y swydd bwysig o fod yn ‘Ddraig Doeth’. Rydym ni hefyd wedi bod yn dylunio bathodyn ar gyfer y ‘Dreigiau Doeth’ i wisgo ar y buarth yn ystod amser chwarae. Fe fyddwn yn pleidleisio am y gorau cyn diwedd yr wythnos!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
30/11/18
Dyma griw o ddisgyblion o'r Cyngor ysgol a Cyngor chwaraeon yn dysgu gemau buarth i weddill disgyblion yr ysgol er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg ar y iard ac yn ogystal er mwyn sicrhau ysgol sy'n ffit ac yn iach.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
24/05/19
Cafwyd cinio 'gwahanol' gyda phawb yn mwynhau eu bwyd tu allan ar y iard. Daeth plant a'i tyweli ac eli haul ac eistedd allan I fwyta sglodion a physgodyn neu focs bwyd. Roedd pawb wedi mwynhau yn ofnadwy.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
04/02/19
Dyma'r criw a fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth athletau Sportshall yng nghanolfan chwaraeon Brailsford ym Mangor heddiw.
Pawb wedi mwynhau'n arw!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
21/01/19
Dyma'r criw brwdfrydig a fu'n cynyrchioli'r ysgol yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd heddiw. Da iawn chi, mae'r ysgol yn hynod falch ohonoch!
20/11/18
Da iawn disgyblion Ysgol Pen-y-Bryn am gefnogi T4U trwy lenwi bocsys esgidau gyda anrhegion eto y Nadolig yma.
19/11/18
Da iawn chi am fod yn llwyddiannus yng nghystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
16/11/18
Daeth pawb i’r ysgol yn eu pyjamas a chyfrannu arian at Blant Mewn Angen. Hefyd gwnaethom gadwyn Pawen Llawen i gyfrannu at ymgyrch Aled Hughes ar Radio Cymru.
11/10/18
Dyma griw o ferched o flynyddoedd 4 a 5 yn mwynhau diwrnod yn dathlu chwaraeon i ferched. Cafwyd sgyrsiau gan rhai o ferched mwyaf llwyddiannus a dylanwadol y byd chwaraeon yng Nghymru, yn ogystal a’r cyfle i gymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a gemau gwahanol, gan gynnwys y wal ddringo, peli ‘Zorbs,’ beicio, golffio, rhwyfo a dawnsio! Pawb wedi mwynau er gwaetha’r glaw!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
10/10/18
Diolch yn fawr iawn i Gwyn Thomas am ei groeso cynnes i Fferm Blaen y Nant. Cafwyd prynhawn bendigedig yn yr haul yn dysgu am wahanol anifeiliaid ac yn cwrdd a’r Lamas!
Cafwyd llawer iawn o fudd o'r ymweliad a llith o wybodaeth i’n helpu gyda’r gwaith themâu yn y dosbarth!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
© 2022 - Cynlluniwyd gan Plant Pesda ~ Gwefan gan Delwedd