Archif Lluniau 2017-18
18/07/18
Cawsom ddiwrnod gwyrdd yn yr ysgol gyda phob dosbarth yn gwneud amryw o weithgareddau gwahanol megis casglu sbwriel o amgylch Bethesda, garddio yn yr ysgol ac yn Abercaseg, cyflwyniad gan Gwenllian o Gaergylchu ac ail greu gwaith celf allan o ddeunydd ailgylchu. Diolch yn fawr i Balchder Bro, Gwenllain Roberts, Y cynghorydd Mr Puw a llawer o wirfoddolwyr am ein helpu ar y diwrnod.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/01/18
Un o flaenoriaethau'r grwp eco yw monitro Ynni.
Penderfynodd y grwp gwyrdd ddosbarthu sticeri gwyrdd, melyn a coch o amgylch yr ysgol ar bob swits golau.
Sticer coch yn golygu nid yw'r swits fod ymlaen BYTH.
Sticer melyn yn golygu fod y switsvgolau ymlaen WEITHIAU pan fod rhywun yn ei ddefnyddio ond fod angen ei droi i ffwrdd pan nad oed neb yn ei ddefnyddio.
Sticer gwyrdd yn golygu fod y stwits golau fod ymlaen BOB AMSER.
Byddwn yn monitro biliau yn y misoedd i ddod er mwyn darganfod os yw'r sticeri yn cael effaith!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/01/18
Mae pob disgybl yr ysgol wedi cael cyfle yn ystod gwersi Lles i gyfrannu tuag at Eco God newydd i'r grwp Eco.
Tasg 3 a 4 - Dylunio logo.
Tasg 5 a 6 - Ysgrifennu pennill neu gerdd.
Cynhaliwyd y grwp eco bleidlais er mwyn penderfynu ar yr enillydd. Roedd hi'n anodd iawn dewis gan fod llawer o logos a cherddi o safon uchel.
Dyma'r ddau fuddugol - Llongyfarchiadau i chi eich dau a diolch yn fawr iawn i bob plentyn a gyfrannodd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/01/18
Diolch i Rebecca Roberts o Ynni Ogwen am ei chyflwyniad am Egin Ogwen. Mae'r grwp gwyrdd yn edrych ymlaen i gyd-weithio.
29/01/18
Mae'r Grwp Gwyrdd wedi bod yn brysur yn tacluso tir yr ysgol ac yn plannu blodau. Diolch i chi blant am eich gwaith - mae'r ardal allanol llawer mwy lliwgar rwan!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
17/01/18
Dyma'r Cyngor Ysgol yn gwneud cyflwyniad am bwysigrwydd presenoldeb! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dyma aelodau newydd ein Cyngor Ysgol ac maent wedi dechrau'n barod ar y gwaith ar flaenoriaethau'r ysgol - edrychwn ymlaen at eich gwaith.
Dyma grŵp pwysig o blant sydd yn edrych ar bob dim tu allan i’r dosbarth; o’r coridorau i’r iard, o’r lle cinio i’r lle cotiau. Yn flynyddol caiff ddau o bob dosbarth eu dewis gan ddilyn pleidlais oddi fewn i’r dosbarthiadau. Yna caiff pob aelod eu hethol ar gyfer gwahanol swyddi, e.e., cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd. Dyma rai o’r pethau mae’r Cyngor Ysgol wedi bod yn eu gwneud hyd yma:
Dyma aelodau newydd Plant Pesda. Rydym wedi dechrau'n barod ar ein gwaith ac mae'r syniadau'n llifo!
Dyma lun o ddisgyblion sydd yn nosbarth Carnedd 2017 -2018.
09/04/18
Mae'r disgyblion wedi bod yn brysur iawn ar gychwyn tymor newydd yn cynllunio thema newydd sbon: ' Sbwriel'. Mae pob aelod wedi cyfrannu'n effeithiol wrth feddwl yn greadigol, rhannu syniadau, ymchwilio ar y we a holi cwestiynau am deitl y thema. Edrychaf ymlaen i roi eich syniadau ar waith.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/03/18
Ymweliad Oriel Môn - Yn y dosbarth, rydym yn astudio Sir Kyffin Williams yn ein gwersi celf. Cawsom weithdy arbennig yn Oriel Môn, bu'm yn efelychu ei waith gan ddefnyddio inc. Roedd pawb wedi mwynhau'r profiad!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
05/02/18
Rydym yn astudio'r thema'r Ail Ryfel Byd yn y dosbarth a chawsom ddiwrnod i gofio dydd Mercher 31ain o Ionawr. Cafodd y plant gyfle i ysgrifennu ar lechi gyda sialc, ysgrifennu eu henwau a chyfeiriad ar dag brown yn union fel oedd yr Ifaciwis yn ei wneud. Yna, bu'm yn chwarae rôl Ifaciwis yn cyrraedd cefn gwlad Cymru ar iard yr ysgol a chael cyfle i chwarae gemau traddodiadol a chuddio yn y cwt beics a oedd fel cuddfan.
Yn y prynhawn, bu'n yn creu poster propaganda a sesiwn blasu pwdin traddodiadol: pwdin bara menyn. Fe fwynhaodd pawb y diwrnod!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
26/01/18
Rydym yn cael sesiwn Ymarfer corff dwywaith yr wythnos - hyfforddiant cylch yw un sesiwn a rygbi yw'r ail sesiwn.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
24/01/18
Rydym yn astudio Beethoven yn ein gwersi cerddoriaeth. Bu'm yn llithr ddarllen ffeithiau, yn uwch oleuo'r prif ffeithiau ac yna creu ffeil o ffeithiau gyda'r wybodaeth berthnasol am ei hanes.
Gwrandawom ar Symphony rhif.9 a chafodd y disgyblion gyfle i fyfyrio ar yr hyn roedd y darn yn portreadu iddynt a thynnu lluniau o'r pethau hynny.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
16/01/18
Yn ein gwersi Dyniaethau rydym wedi bod yn edrych ar leoliad y gwledydd a oedd yn rhan o'r Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd atlas yn gywir. Llwyddodd y disgyblion ddisgrifio cyfeiriad y gwledydd gan ddefnyddio'r 8 pwynt cwmpawd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
08/12/17
Bu plant Carnedd yn brysur yn cynllunio, creu a phrisio nwyddau Nadoligaidd er mwyn eu gwerthu yn ystod y pnawn Mentergarwch. Cynnyrch y dosbarth oedd mygiau Nadoligaidd, tagiau Nadolig, brownies a bagiau i ddal cynhwysion brownies mewn myg. Yn ein gwersi Mathemateg, bu'm yn trafod costau prynu a gwerthu er mwyn canfod faint o elw oedd modd ei wneud. Cafodd popeth ei werthu ac fe wnaethom dros £102 o elw!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
06/12/17
Diwrnod Siwmperi Nadolig.
05/12/17
Yn ein gwersi D&T rydym wedi bod dylunio a chreu brechdan iachus. Y camau cychwynnol oedd ymchwilio am wahanol lenwad, bara a menyn. Yna blasu gwahanol fara a'u gwerthuso. Y trydydd cam oedd cynnal pleidlais er mwyn darganfod ffefryn y dosbarth. Yna, meddwl am gamau sut i greu y frechdan, dilyn y cyfarwyddiadau, creu y frechdan a'i gwerthuso. Roedd pawb wedi mwynhau'r uned waith.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
30/11/17
Yn ein gwersi Gwyddoniaeth, rydym wedi bod yn trafod beth yw anweddu a chyddwyso. Cynhaliwyd arbrawf yn y dosbarth a gosodwyd 3 cynhwysydd dwr gyda 100ml mewn 3 lleoliad gwahanol er mwyn canfod os oedd lleoliad y dwr yn gwneud gwahaniaeth i'r amser mae'n ei gymryd i anweddu.
Cafodd pob disgybl gyfle i feddwl am gamau priodol ar gyfer arbrawf, i ragfynegi, adnabod y newidyn ac i fesur cyfaint y dwr ar gychwyn ac ar ddiwedd yr arbrawf.
Darganfuwyd mai'r cynhwysydd oedd ar y gwresogydd oedd wedi anweddu fwyaf.
Y cam olaf oedd creu graff yn dangos eu canfyddiadau gan gofio dilyn y mpll.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/11/17
Mae'r dosbarth yn cael gwersi canu gan Lois Eifion - yn ystod y gwersi rydym yn dysgu gwahanol ganeuon a phatrymau rhythm.
16/11/17
Bu’r dosbarth yn gwneud gwaith celf ar gyfer Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn seiliedig ar thema’r dosbarth ‘Yr Ail Ryfel Byd’. Edrychodd y disgyblion ar luniau o’r Blits ac yna efelychu syniadau hynny gan ddefnyddio pasteli a phapur. Gwaith arbennig!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
07/11/17
Yn ystod sesiynau Lles rydym wedi bod yn trafod teimladau yr wythnos hon. Cychwynom gydag amser cylch yn trafod gwahanol deimladau a fe lwyddodd pawb i esbonio fod teimladau yn amrywio. Yn ystod y sesiwn, cawsom drafodaeth hynod aeddfed. Yna aeth pob un i feddwl am 4 emosiwn/ teimlad gwahanol ac esbonio pam a phryd oeddent yn teimlo felly. Cofnodwyd yr emosiynau amrywiol ar daflen waith.
Cliciwch yma i weld mwy o lunaiu
18/10/17
Taith yr Iaith - Cawson hanes yr iaith gan Llion Williams. Fe fwynhaodd pawb wrth gymryd rhan a dysgu ffeithiau am y gymraeg. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17
Bu dosbarth Carnedd yn ymarfer eu sgiliau TGCh ar y chrombooks wrth ailddrafftio eu lythyrau Ifaciwi o gefn gwlad Cymru. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17
Dosbarth Carnedd oedd yn cynnal y gwasanaeth wythnos yma am hanes yr Ail Ryfel Byd. Darllennodd pawb yn glir, gwasanaeth arbennig blant.
17/01/18
Arbrawf Ffrithiant. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
17/01/18 (Cymraeg yma yn fuan)
After writing a play script about the inspector, mine owner and worker of a coal mine, we performed them to the class, and then evaluated our work. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
17/01/18
Cyn mynd ati i ysgrifennu dyddiadur plentyn a oedd wedi goroesi trychineb Aberfan, aethom ati i chwarae rol y digwyddiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
16/1/18 Mentergarwch
Bu plant Glyder a Elidir yn brysur yn cynllunio, creu a phrisio nwyddau Nadoligaidd er mwyn eu gwerthu yn ystod y p'nawn Mentergarwch. Erbyn y p'nawn, roeddynt wedi creu addurniadau coeden Nadolig, cerdyn Rwdolff, pot da-da's Sion Corn, jeli Nadoligaidd, dynion eira malws melys a choed Nadoligaidd gyda sypreis. Creodd bob plentyn daenlen ar Google sheets er mwyn rhagfynegi'r elw petai popeth yn cael ei werthu - dros £110! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/10/17 Diwrnod Gwrth Hiliaeth
Mae pawb mewn coch heddiw i gefnogi diwrnod gwrth-hiliaeth. Cawsom wasanaeth gwych gan ddosbarth Glyder Fach i gychwyn y diwrnod, a bydd llawer o weithgareddau diddorol a phwysig yn ystod y diwrnod! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17 Croeso i ddosbarth Elidir!
Dyma gip-olwg sydyn i chi o'r hyn rydym yn ei wneud o ddydd i ddydd yn nosbarth Elidir! Mwynhewch! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17 Gwyddoniaeth
Grymoedd - A yw pwysau'n gwneud gwahaniaeth i ddisgyrchiant? Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17 Dyniaethau
Dyma ni wrthi'n brysur yn datblygu ein sgiliau dyniaethau! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/10/17 Big Pit (Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
After visiting The Big Pit in Blaenafon, our task was to write a Play-script between an inspector, coal mine owner and worker!
After writing the Play-script, they performed them to the class, and then evaluated their work! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Medi 20 - 22 Trip i Gaerdydd
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
19/07/18
Dyma griw blwyddyn 5 yn mentro i Gwm Idwal heddiw!Am ddiwrnod gwych! Pawb wedi mwynhau y golygfeydd godidog a chael dysgu mwy am Gwm Idwal wrth i ni gael ein tywys ar y daith gan Morfudd, Cemlyn a Nathan! Pawb wedi bod yn wych, a prin dim cwyno am y cerdded!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/10/17 Diwrnod Gwrth Hiliaeth
Mae pawb mewn coch heddiw i gefnogi diwrnod gwrth-hiliaeth. Cawsom wasanaeth gwych gan ddosbarth Glyder Fach i gychwyn y diwrnod, a bydd llawer o weithgareddau diddorol a phwysig yn ystod y diwrnod! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
17/01/18
Dyma ni yn chwarae rol y prif ddigwyddiadau yn stori Gelert. Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
14/11/17
Cawson gyfle fel dosbarth i wneud gwaith ar 'Myfi fy Hun' - ein tasg oedd glendid dwylo. Bu i ni ddysgu am sut i olchi dwylo yn gywir a rhoi ein dwylo mewn peiriant oedd golau arbennig oedd yn dangos y germau oedd ar ôl er i ni geisio golchi ein dwylo yn lân. Diddorol iawn! Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
14/11/17
Yn dilyn ein trip i Gaerdydd, cawsom wneud gwaith map ar Gaerdydd a dysgu ei bod yn Dref fawr gyda ystod eang o bethau diddorol yno, lle gwahanol iawn i Fethesda! Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
14/11/17
Buom yn gosod drama ac yn ei hymarfer am hanes Aberfan yn y dosbarth. Bu pawb yn gweithio yn galed a bu i ni weithio yn dda fel grwpiau. Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Disgyblion Blwyddyn 3 - Dosbarth Tryfan 2017-2018
13/06/18
Ar Fehefin y 13eg aethom ar ymweliad i Bortmeirion gan fod ein gwaith daearyddiaeth yn gofyn i ni gymharu Bethesda gyda’r pentref Eidalaidd. Ar ôl ymchwilio a dysgu am y pentref yn y dosbarth roedd yn braf iawn cael gweld y lleoliad dros ein hunain a chasglu data yn ystod y diwrnod. Cafodd pawb fynd ar y tren bach trwy’r goedwig a hufen ia blasus cyn cychwyn adref.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/05/18
Pawb yn brysur yn gwneud gwaith codio - Hour of Codes ar y Chrombooks a Scratch Junior ar yr ipads.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18/05/18
Dyma ni yn cael blas ar gwahanol chwaraeon - hoci, badminton, tenis a chriced yn ystod ein gwers Addysg Gorfforol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
15/03/18
Ar Ddydd Iau Mawrth 15fed aethom i'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis i ddysgu am ddiwrnod golchi yn Oes Victoria. Roedd Anti Marged yn brysur iawn yn ei chartref yn golchi i bobl y pentref er mwyn cael arian i fwydo ei theulu - lwcus ein bod wedi mynd i'w helpu!! Cawsom y profiad o olchi'r dillad gyda doli yn y twb golchi, sgwrio y dillad budr iawn yn y sinc ar y bwrdd sgwrio, ac yna rhoi'r dillad trwy'r mangl i wasgu dwr allan ohonynt cyn eu rhoi ar y lein i sychu. Rydan ni i gyd yn cytuno bod merched wedi gweithio'n galed iawn ar ddiwrnod golchi yn Oes Victoria.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
14/03/18
Da iawn hogiau am gynrychioli'r ysgol yn y Gala Nofio.
13/03/18
Daeth Marie-Claire o Ganolfan William Mathias atom i wneud gweithgareddau cerdd ar gyfer cynllun gweithio gyda’r henoed yn y gymuned.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
09/03/18
Da iawn chi genod am ddarllen y llyfrau yn drylwyr er mwyn gallu trafod y cynnwys a mynegi eich barn yn y Cwis Llyfrau.
18/01/18
Da iawn pawb o dim Ysgol Pen-y-Bryn aeth i gynrychioli’r ysgol yn Nhwrnament Pêl-droed yr Urdd i flynyddoedd 3 a 4 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Brailsford, Bangor.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
15/01/18
Thema y dosbarth am y tymor yma fydd Y Ddaear a’r Gofod. Rydym yn edrych ymlaen i ymchwilio a darganfod bob math o wybodaeth.
17/11/17
Dosbarth Tryfan oedd yn gyfrifol am wneud y gwasanaeth yr wythnos yma. Roeddem yn sôn am waith elusen T4U yn anfon bocsys esgidiau yn llawn anrhegion i blant yn Romania dros gyfnod y Nadolig. Mae disgyblion Ysgol Pen-y-Bryn yn falch o allu cefnogi gwaith yr elusen yma.
8/11/17
Rydan ni wedi bod yn trafod pa mor addas ydi gwahanol ddefnyddiau ar gyfer eu pwrpas. Buom yn edrych ar nodweddion y defnyddiau mewn helmed beic. Hefyd cawsom gyfle i ymchwilio beth fuasai digwydd i ddau feiciwr wrth ollwng dau wy ar y llawr, un gyda helmed a'r llall heb ddim byd i'w warchod. Mae'r lluniau yn dangos y canlyniad.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
27/10/17
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn y dosbarth ar ein tasg ysgrifennu Saesneg gyntaf - adroddiad am ein boreau yn yr ysgol. I ddechrau buom yn cynllunio'r gwaith - casglu gwefreiriau, meddwl am agoriadau ar gyfer ein brawddegau a dysgu cysyllteiriau newydd i sicrhau ein bod yn ysgrifennu brawddegau estynedig. Dyma luniau ohonom yn defnyddio ein bocsys lliw Geirio Gwych gyda'n holl waith cynllunio a oedd yn ein helpu gyda'r brif dasg o ysgrifennu adroddiad llawn gwybodaeth.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
27/10/17
Daeth Mr Wyn Owen o T4U i'r ysgol i siarad am sut y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn trwy helpu gyda ymgyrch 'Rhowch gariad mewn bocs eleni' trwy wneud bocs esgidiau llawn anrhegion i blentyn bach yn Romania y Nadolig yma. Bydd y fan yn dod i gasglu'r bocsys ar Dachwedd 21ain.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
26/10/17
Rhoddodd Steph flas o wersi sboncen i ni yr wythnos yma. Yn gyntaf daeth i'r ysgol i roi hyfforddiant a cawsom gyfle i ymarfer ein sgiliau yn unigol ac wrth wneud gwaith pâr yn erbyn rhwyd fawr. Yn ychwanegol at hyn cawsom gyfle i ymarfer mwy o sgiliau sboncen yn ystod ein gwers olaf ym Mhlas Ffrancon. Cofiwch bod gwersi yn cael eu cynnal ym Mhlas Ffrancon os oes ganddoch ddiddordeb.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
25/10/17
Bob yn ail bore Mercher rydym wrth ein bodd yn cael gwersi cerdd efo Miss Lois Eifion sy'n rhoi cyfle i ni berfformio trwy ganu a chlapio rhythmau.
20/10/17
Daeth pawb i'r ysgol yn gwisgo coch er mwyn dangos y cerdyn coch i hiliaeth ar Ddiwrnod Gwrth-Hiliaeth. Cawsom wasanaeth gwych gan ddosbarth Glyder Fach i gychwyn y diwrnod. Yna bu pawb yn trafod a gwneud gweithgareddau yn ymwneud â hiliaeth yn eu dosbarthiadau. Yn nosbarth Tryfan cawsom stori Y Bobol Fach Wyrdd a trafod sut oedd rhai cymeriadau yn y stori yn dangos rhagfarn at eraill oherwydd lliw eu croen, hefyd buom yn gwylio clipiau fidio yn ymwneud â hiliaeth. Yn ystod ein tasgau cawsom gyfle i feddwl sut mae hiliaeth yn gwneud i bobl deimlo a dod i ddeall bod y byd yn le diddorol o ganlyniad i liw croen, crefydd ac ieithoedd amrywiol a bod angen trin pawb gyda pharch.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
12/10/17
Daeth cwmni Mewn Cymeriad i'r ysgol gyda'u cymeriad dychmygol Mr R. Ben Igwr (Llion Williams) i gyflwyno sioe -Taith yr Iaith. Cawsom hanes digwyddiadau arwyddocaol ym mrwydr a pharhad yr iaith Gymraeg. Fe fwynhaodd pawb gymryd rhan yn ogystal â dysgu ffeithiau am yr iaith Gymraeg.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
12/10/17
Yn ystod yr hanner tymor yma rydym wedi bod yn mynd i Blas Ffrancon bob prynhawn Iau i chwarae gemau gyda Emma. Cawsom gyfle i ymarfer ein sgiliau gwrando a dilyn cyfarwyddiadau yn ogystal â gweithio ar ddatblygu ein ffitrwydd a sgiliau addysg gorfforol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
06/10/17
Dosbarth Tryfan oedd yn cymryd y gwasanaeth yr wythnos yma. Roedd rhai plant yn darllen dameg Y Ddafad Goll ac eraill yn actio'r digwyddiadau. Neges y ddameg yw bod pawb yn bwysig ac i ddangos empathi tuag eraill a pheidio bod yn genfigenus.
25/09/17
Dyma ni yn actio beth ddigwyddodd pan oedd problem gyda llygod yn Ysgol Pen-y-Bryn cyn ysgrifennu dyddiadur Moi Mops. Helpodd y gwaith drama ni i gael syniadau ar gyfer cynnwys ein dyddiadur.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
19/07/18
Dyma griw blwyddyn 5 yn mentro i Gwm Idwal heddiw!Am ddiwrnod gwych! Pawb wedi mwynhau y golygfeydd godidog a chael dysgu mwy am Gwm Idwal wrth i ni gael ein tywys ar y daith gan Morfudd, Cemlyn a Nathan! Pawb wedi bod yn wych, a prin dim cwyno am y cerdded!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
16/07/18
Dyma’r criw (a’u gwobrau!) a oedd yn fuddugol yn swîp Cwpan y Byd eleni! Da iawn Ffrainc!
16/07/18
Fe ddaeth Mr John Grisdale i’r ysgol heddiw i dderbyn siec o £600 ar ran Tîm Achub Mynydd Llanberis. Bu i flwyddyn 5 a 6 benderfynu fynd ati i drefnu 'Prynhawn Hwyl' er mwyn casglu pres tuag at yr achos yn dilyn ymweliad Mr Grisdale â’r ysgol mis diwethaf. Ymdrech wych blwyddyn 5 a 6!
11/07/18
Blwyddyn 6 - Gwyl Pêl Fasged
Bu dosbarth Elidir a Glyder yng Ngwyl Pêl Fasged yng Nghaernarfon yn ddiweddar. Cawsant hyfforddiant gan rai o aelodau tîm Cymru. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
23/03/18
Dyma griw y tîm pêl droed a fu’n cystadlu yn nhwrnament Premier League Primary Stars ym Mangor brynhawn dydd Gwener y 23ain o Fawrth. Cawson nhw lawer iawn o hwyl yn cystadlu yn erbyn ysgolion ar draws Gogledd Cymru! Rhoddwyd bag llawn nwyddau chwaraeon i bawb a oedd yn cymryd rhan, ac fe fydd yr ysgol yn ogystal yn derbyn cit pel droed cyfan newydd sbon i’w ddefnyddio i gynrychioli’r ysgol mewn cystadlaethau’n y dyfodol! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
15/03/18
Llongyfarchiadau mawr i'r criw am nofio mor dda yn y Gala Ysgolion mawr ym mhwll nofio Bangor heddiw! Cafwyd Gala llwyddiannus iawn a phawb wedi ymddwyn yn wych!
17/01/18
Cafwyd cyflwyniad gwerth chweil gan Llion Williams am Daith yr iaith. Cyflwyniad am bwnc sydd yn agos iawn at ein calonau yma ym Mhen-y-bryn! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
17/01/18
Cafwyd gyflwyniad diddorol gan Steve, Callum a Llew o 'Gwyl Fynydda Ogwen'. Roeddynt yn siarad am yr holl weithgareddau awyr agored sydd ar gael yn lleol. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/11/17
Da iawn disgyblion Ysgol Pen-y- Bryn am gefnogi Teams4U trwy lenwi bocsys esgidau gyda anrhegion eto y flwyddyn yma. Daeth y fan i gasglu 29 o focsys a fydd yn siwr o roi gwên ar wynebau plant bach y Nadolig yma.
01/12/17
Llongyfarchiadau mawr i'r criw Gala Nofio yr Urdd am nofio'n arbennig o dda ym Mhwll Nofio Bangor ar ddydd Sadwrn Tachwedd yr 18fed.
01/12/17
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd rhan yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen, llongyfarchiadau hefyd i'r rhai a fuodd yn fuddugol. Da iawn pawb!
14/11/17
Bu disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 yng Nghaerdydd mis Medi am ddwy noson. Ar y ffordd i lawr wnaethon nhw stopio yn y Big Pit yn Blaenafon. Bu pawb i lawr yn y llifft i'r twneli tywyll. Ar ôl cyrraedd lawr yn gwersyll yr Urdd y noson hwnnw, cafodd pawb dê ac aethom am gem o Fowlio deg.
Dydd Iau, cafodd pawb frecwast yn y gwersyll a bocs bwyd i fynd allan am y diwrnod. Stop cyntaf, ymweliad a'r Cynulliad lle daeth Sian Gwenllian ein AC atom am sgwrs. Cawsom ddysgu am Aelodau eraill ac am yr adeilad a beth sydd yn digwydd yno. Ail stop y dydd, Stadiwm Principality. Cafodd pawb gyfle i fynd o amgylch, gweld y cae, yr ystafelloedd newid ac gafael mewn cwpan sgleiniog! Noson honno aethon i'r sinema ar ôl tê bendigedig. Bore dydd Gwener roedd yn amser cychwyn am adref, ond ddim heb yrru drwy Aberfan a chael clywed ychydig o'r hanes am y drychineb. Erbyn amser tê roedd y ddau fws yn rowlio fyny wrth Ysgol Pen y Bryn yn llawn o ddisgyblion blinedig ond wedi mwynhau yn arw! Diolch i'r staff am eu gwaith ag i pawb am eu cefnogaeth.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
27/10/17
Ar nos Iau 26ain o Hydref bu aelodau'r Urdd yn y Disgo yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Cafodd pawb lawer o hwyl yn yd dawnsio a chymryd rhan mewn cystadleuaeth.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
26/10/17
Cafodd ddawnsio arbennig yn ddisgo Calan Gaeaf yr wythnos hon. Cafodd y disgo ei drefnu gan Cyfeillion yr Ysgol. Codwyd swm o £297.02 a cafodd pawb noson dda, gyda cwn poeth, candi fflos a digon o ddawnsio! Diolch i bawb am eich cefnogaeth ag am helpu ar y noson.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
© 2022 - Cynlluniwyd gan Plant Pesda ~ Gwefan gan Delwedd