Archif Lluniau 2016-17
30/09/16
Diolch i bawb am eich cyfraniad i'r bore coffi. Casglwyd £176.63 at yr elusen holl bwysig hon. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/11/16
Dyma'r Grwp Gwyrdd yn casglu sbwriel gyda'r Cynghorydd Ann Williams fel rhan o waith Balchder Bro. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dyma'n Cyngor Chwaraeon ni! Maent wedi dechrau'n barod ar eu gwaith caled gyda Mrs Hughes. Edrychwn ymlaen at eich gwaith o gadw plant Ysgol Pen-y-bryn yn heini!
Sefydlwyd y Cyngor Chwaraeon yn dilyn cyswllt gydag ysgolion yn Indonesia drwy gynllun gan y Cyngor Prydeinig adeg Olympics Llundain, 2012. Pwrpas gwreiddiol y grwp oedd i gyd-weithio gydag Ysgol Dyffryn Ogwen a’r ysgolion cyswllt yn Indonesia i hybu ffitrwydd ac i ysbrydoli plant, sef ymgyrch gan yr Olympics. Mae’r Cyngor Chwaraeon yn meddwl trwy’r amser am ffyrdd cyffrous i gael plant yn frwdfrydig am chwaraeon ac yn fuan iawn fe fyddant yn cynnal sesiynau Campau’r Ddraig gyda Mrs Hughes ar ôl ysgol.
03/02/17
Dyma'r Cyngor Ysgol wrthi'n brysur yn dehongli holiaduron siarter iaith 2016! O ganlyniad, byddent yn gosod targedau i bob plentyn er mwyn gweld cynnydd pellach yn 2017.
Dyma Plant Pesda yn addysgu dosbarthiadau sut i ddefnyddio'r 'Chromebooks' newydd!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Dyma Grŵp Effeithiolrwydd yr ysgol. Sefydlwyd y grwp ym 2009 fel ffordd o weithredu gofynion Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY). Gwaith Plant Pesda yw edrych ar beth sydd yn digwydd oddi fewn i’r dosbarth, hynny yw, yr addysgu a dysgu. Dyma rai o’r pethau maent wedi’u gwneud hyd yma:
19/07/17
Ar brynhawn Mercher, 5ed o Orfennaf aethom ar daith o amgylch chwarel Pant Dreiniog yng nghwmni Anitta Diamond. Cawsom gyfle i wneud Geocache fel dosbarth. Fe fwynhaodd pawb o ddosbarth Carnedd y profiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
13/07/17
Daeth PC Meirion Williams atom ni ar Chwefror 10fed er mwyn rhoi cyflwyniad i bob dosbarth am gyffuriau ac alcohol. Gwrandawodd y plant yn arbennig o dda wrth iddynt ddysgu am effeithiau cyffuriau. Diolch PC Meirion am ddod i’r ysgol; welwn ni chi yn fuan.
13/07/17
Cafodd blant dosbarth Carnedd sioe Mewn Cymeriad a oedd yn dangos sut oedd bywyd yn ystod y Blits. Fe fwynhaodd y plant a chawson gyfle i wisgo fel plentyn yn ystod y Blits. Yn sicr, roedd y sioe yn fuddiol a rhoddodd fwy o ddealltwriaeth i’r plant am sut fywyd oedd gan bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
13/07/17
Bu plant dosbarth Carnedd yn Oriel Môn ar 13 Mawrth er mwyn dysgu am Kyffin Williams fel rhan o’u gwaith celf. Bu’r plant yn braslunio ac yna’r edrych ar y crefftweithiau yn yr oriel. Dewisiodd bob plentyn un o luniau Kyffin Williams ac yna efelychu’r llun hwnnw. Cafodd y plant ddiwrnod penigamp! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/11/16
Dyma blant Carnedd yn defnyddio Chromebooks am y tro cyntaf.
Disgyblion dosbarth Tryfan 2016 - 2017
4/7/17
Ar Orffennaf y 4ydd aethom ar ymweliad i Bortmeirion gan fod ein gwaith daearyddiaeth yn gofyn i ni gymharu Bethesda gyda’r pentref Eidalaidd. Ar ôl ymchwilio a dysgu am y pentref yn y dosbarth roedd yn braf iawn cael gweld y lleoliad dros ein hunain a chasglu data yn ystod y diwrnod. Cafodd pawb fynd ar y tren bach trwy’r goedwig a hufen ia blasus cyn cychwyn adref.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
20/6/17
Aethom ar daith o amgylch Bethesda er mwyn ymgyfarwyddo gyda nodweddion daearyddol ein hardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
15/02/17
Roedd hi’n amser i ni groesawu disgyblion blwyddyn 2 a’u rhieni yma atom am y prynhawn. Dyma ni yn barod i roi ein cyflwyniad er mwyn eu dysgu am eu dosbarth a’u hysgol newydd.
13/02/17
Dyma ni yn brysur yn codio ar y chrome books. Beth am ymarfer mwy adref ar wefan https://code.org/ ar Hour of Codes. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
10/02/17
Daeth PC Meirion i'r dosbarth i drafod sut i ymateb i gyffuriau. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
08/02/17
Ar Ddydd Mercher Chwefror yr 8fed aethom i'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis i ddysgu am ddiwrnod golchi yn Oes Victoria. Roedd Anti Marged yn brysur iawn yn ei chartref yn golchi i bobl y pentref er mwyn cael arian i fwydo ei theulu - lwcus ein bod wedi mynd i'w helpu!! Cawsom y profiad o olchi'r dillad gyda doli yn y twb golchi, sgwrio y dillad budr iawn yn y sinc ar y bwrdd sgwrio, ac yna rhoi'r dillad trwy'r mangl i wasgu dwr allan ohonynt cyn eu rhoi ar y lein i sychu. Rydan ni i gyd yn cytuno bod merched wedi gweithio'n galed iawn ar ddiwrnod golchi yn Oes Victoria. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
23/01/17
Mae dosbarth Tryfan wrth eu bodd yn dysgu am Y Ddaear a’r Gofod yn eu thema newydd y tymor yma.
19/01/17
Daeth Criw Techniquest i’r ysgol brynhawn Iau Chwefror 19eg i gynnal gweithdy gwyddoniaeth am ‘Ddefnyddiau’. Roedd pawb wedi mwynhau gweld y gwahanol arbrofion a meddwl “Beth fydd yn digwydd wrth i ni wneud hyn?” Cliciwch yma i weld mwy o luniau
21/11/16
Llongyfarchiadau i bawb o ddosbarth Tryfan gafodd wobr yn yr adran gelf yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
18/11/16
Genethod Blwyddyn 3 Ysgol Pen-y-Bryn oedd yn gwneud y ddawns flodau yn seromoni y cadeirio yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
18/11/16
Dosbarth Tryfan oedd yn gyfrifol am wneud y gwasanaeth yr wythnos yma. Roeddem yn sôn am waith elusen T4U yn anfon bocsys esgidiau yn llawn anrhegion i blant yn Romania dros gyfnod y Nadolig. Mae disgyblion Ysgol Pen-y-Bryn yn falch o allu cefnogi gwaith yr elusen yma.
02/11/16
Dyma ni yn chwarae yn y twrnament ‘dodgeball’ ar ôl cael ein noddi, rydym yn codi arian at Ymgyrch Brydeinig y Galon. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
20/10/16
Daeth Wyn o T4U i’r ysgol i siarad am sut y gall pobl gyffredin fel ni wneud gwahaniaeth go iawn trwy helpu gyda ymgyrch ‘Rhowch gariad mewn bocs eleni’ trwy wneud bocs esgidiau llawn anrhegion i blentyn bach yn Romania y Nadolig yma. Bydd y fan yn dod i gasglu’r bocsys ar Dachwedd 22ain. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
14/10/16
Tro dosbarth Tryfan oedd gwneud gwasanaeth yr wythnos yma. Y thema oedd ‘Diolch’, gan fynegi bod gan bawb ohonom le i fod yn ddiolchgar am bethau syml bywyd - cartref clyd, bwyd, dillad ac iechyd. Cafwyd actio gwych i bortreadu y rhaglen deledu Heno gyda Victoria Beckham, Ashley Williams a’r Frenhines yn ymddangos fel gwesteion!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
11/10/16
Diolch i PC Meirion Williams am ddod atom i drafod ymddygiad a sut i fod yn ffrind da. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
06/10/16
Ar brynhawn Iau mae disgyblion dosbarth Tryfan yn mwynhau mynd i Blas Ffrancon i ddysgu sgiliau tenis gyda Steph. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
30/09/16
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion dosbarth Tryfan ar ddod i frig y graff presenoldeb ar gyfer mis Medi gyda phresenoldeb o 99.1%
29/09/16
Rydan ni wedi bod yn gweithio’n galed yn y dosbarth ar ein tasg ysgrifennu estynedig cyntaf. Rydan ni wedi treulio un wythnos yn cynllunio’r gwaith – gwneud gwaith drama, casglu gwefreiriau, idiomau a chymariaerthau, meddwl am agoriadau brawddegau gan ddefnyddio berfau cryno a dysgu cysyllteiriau diddorol er mwyn sicrhau bod ein brawddegau yn llawn gwybodaeth. Dyma luniau ohonom yn defnyddio bocsys lliw gyda’r holl waith cynllunio wedi ei grynhoi i’n helpu gyda’r brif dasg o ysgrifennu dyddiadur yn ystod yr ail wythnos. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
27/09/16
Dyma ni yn chwarae gemau mathemateg ar primary games er mwyn ymarfer ein sgiliau lluosi. Beth am ymarfer adref hefyd? Cliciwch yma i weld mwy o luniau
16/09/16
Dyma luniau o blant Tryfan yn mwynhau dysgu sgiliau rygbi gyda Carwyn ar brynhawn Gwener. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
09/09/16
Croeso i 24 o ddisgyblion newydd i ddosbarth Tryfan. Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich blwyddyn gyntaf yn Ysgol Pen-y-Bryn.
Disgyblion dosbarth Glyder 2016 - 2017
17/05/17
Da iawn ti am ddod yn drydedd yn y ras 200m ac yn ail yn y naid hir.
27/01/17
Dyma gynnyrch bore coginio dosbarth Glyder, bwrdd llawn o myffins a fflapjacs blasus dros ben. Da iawn dosbarth Glyder!
Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant yn paratoi a pobi
29/11/16
Llongyfarchiadau mawr i'r ddau yma ar eu llwyddiannau diweddar yn y pwll nofio - gwych!
29/11/16
Llongyfarchiadau mawr i ti ar gael y gwobr 'Bachgen y Flwyddyn' (dan 11oed) yng Nghlwb 'Menai Track and Field'. Rydym yn hynod falch ohonot!
29/11/16
Dyma griw o flwyddyn 5 a 6 yn coginio gyda Miss Williams. Blasus iawn, hogiau! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
30/09/16
Dyma ni i gyd yn dysgu am y Titanic yn Lerpwl. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Disgyblion dosbarth Glyder Fach 2016 - 2017
08/11/16
Daeth criw o grwp ‘Inspiring children of today’ i’r ysgol heddiw i gynnal sesiynau hofforddiant cylch gyda’r ysgol gyfan. Cawsom sgwrs a chyflwyniad gan yr athletwraig Beverly Jons a oedd yn cynrychioli ‘Team GB’ yn y gemau paraolympaidd eleni yn Rio. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
8/10/16
Rydym ni wedi bod yn brysur yn ysgrifennu erthygl bapur newydd yn adrodd trychineb y Titanic yn y dosbarth yr wythnos yma! Dyma ni wrth ein gwaith ac yn ymarfer ein ‘Geirio Gwych’ gan wrando ar gerddoriaeth ysgogol a chanolbwyntio ar fflam y ganwyll! Pawb wedi dechrau’n wych, edrych mlaen i ddarllen y gwaith gorffenedig! Cliciwch yma i weld yr llun yn fwy.
21/09/16
Dyma griw Glyder Fach ar eu hymweliad i’r amgueddfa morol yn Lerpwl. Gawsom ni ddiwrnod braf a bu i bawb fwynhau dysgu mwy am drychineb y Titanic! Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
13/9/16
Croeso pawb!! Dyma griw newydd dosbarth Glyder Fach! Pob hwyl i chi yn y flwyddyn ysgol newydd!
Disgyblion dosbarth Elidir 2016 - 2017
12/07/17
Cafodd blwyddyn 6 y cyfle i fynychu gweithdy am y rhyfel byd cyntaf yng Nghaernarfon. Diddorol oedd cael gweld gwisgoedd y milwyr a'r nyrsys, yn ogystal a chlywed hanes y gadair ddu! Profiad gwerth chweil. Cliciwch yma i weld mwy o luniau..
30/05/17
Cawsom ymweliad gan yr awdures Haf Llewelyn (Awdures Diffodd y Ser) i son am deulu'r Ysgwrn. Caswom wybodaeth diddorol ganddi, a roedd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ein gwaith iaith sef llythyr drwy lygaid Hedd Wyn o'r ffosydd.
Cliciwch yma i weld engraifft o waith
30/01/17
Ein thema am y tymor hwn yn nosbarth Elidir yw 'Ein Byd'. Byddwn yn atudio heddychwyr megis Nelson Mandela, yn ogystal a chynhyrchu llyfryn am Gymru a Phatagonia, a llawer mwy! Rydym wedi bod wrthi'n brysur yn coginio byrbrydau iachus yn ein gwersi Technoleg! Cofiwch edrych ar ein lluniau!
14/11/16
Da iawn ti am yr holl fedalau gefaist yn y Gala Nofio dydd Sadwrn.
17/10/16
Cawsom y fraint o gael Mr Alun Davies (Gwenidog yn y Senedd) yma atom i drafod sut oeddem yn mynd ati i weithredu'r Siarter Iaith! Cafodd sgwrs gyda aelodau a chyn-aelodau o'r Cyngor Ysgol! Ynghyd a chyflwyniad gan flwyddyn 6 am yr holl waith a wnaethpwyd y llynedd. Yn ogystal, bu'n gweld y gemau buarth ar yr iard a oedd yn cael ei arwain gan y Dreigiau Doeth! Profiad a hanner yn wir, a braint oedd cael ei gyfarfod. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
26/09/16
Cawsom daith addysgol arbennig i Lerpwl i Amgueddfa'r Titanic! Diddorol oedd darllen am hanes y gwahanol deithwyr, a dysgom lawer am achos ac effaith y drychineb arnynt! Edrychwn ymlaen i wneud fwy o waith y tymor hwn am y Titanic!
13/9/16
Croeso i ddosbarth Elidir eleni! Mae ganddom flwyddyn brysur o'n blaenau, sy'n llawn gweithgareddau a gwersi hynod ddiddorol. Teithio yw ein thema y tymor hwn, felly byddwn yn son am drychineb y Titanic, mordaith y Mimosa i Batagonia a llawer mwy! Edrychwn ymlaen at flwyddyn hapus eto eleni!
12/07/17
Mai 25 - Bu i griw o ddisgyblion gymryd rhan yn Athletau yr Urdd. Cawsom ddiwrnod llwyddianus iawn o gystadlu a phawb wedi gwneud ei gorau. Bu rhai yn llwyddiannus yn mynd drwadd i'r cam nesaf. Da iawn pawb am wneud ei gorau glas!
12/07/17
Cafodd Blwyddyn 5 a 6 sioe 'Mewn Cymeriad' am Hedd Wyn yn yr ysgol. Bu i un disgybl ennill y gadair yn yr eisteddfod tra bu rhai eraill yn ran o'r orymdaith. Sioe dda iawn, diolch 'Mewn Cymeriad!
12/07/17
Cawsom ddiwrnod gwych yn cymryd rhan mewn twrnament criced, aeth un tim i'r ffeinal gan chwarae yn arbennig o dda. Daeth yr haul allan a bu i bawb fwynhau! Diolch Criced Cymru am drefnu ac am ddod i'r ysgol i'n paratoi ar y diwrnod
16/06/17
Cyflwyniad gan y 'Criw Mentrus' am weithgareddau mentergarwch yr ysgol mewn diwrnod arbennig wedi ei drefnu gan y Llywodraeth. Cafodd y criw wobr arbennig 'Y Tim Gorau' a'r wobr arian!
14/06/17
Da iawn chi am ennill twrnament o dan 12 yn chwarae i Mynydd Tigers!
14/06/17
Da iawn chi hogiau am ennill y tlysau hyn am chwarae pel droed i Mynydd Tigers
12/05/17
Llongyfarchiadau i'r disgyblion hyn am gymryd rhan yng nghystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2017
20/03/17
Buom yn dathlu 'Cymru Cwl' ar ôl dychwelyd yn ôl o hanner tymor. Bu i ni gael ymwelwyr i'r ysgol a cawsom ddysgu am Bethesda a'i hanes, taith yr iaith a canu ambell i gân ac odli ambell i odl!
Buodd Cwmni Fran Wen yma yn rhoi sioe Sigldigwt i flwyddyn 3 a 4, cawsom sesiwn ymarfer corff gan yr Urdd, Fuodd Elwyn Hughes yma yn siarad gyda blwyddyn 5 a 6, caswom weithdy drama gan Pontio, fuodd Sdwnsh yma yn ein dysgu am farddoni a dawnsio clocsiau, cawsom farddoni a ysgrifennu cerdd gyda Myrddin ap Dafydd a buom yn canu gyda Neil Maffia a sgwennu alaw i'r gerdd. I orffen ein pythefnos 'Cymru Cwl'cynhaliwyd gyngerdd yn y neuadd yn ogystal a stondinau gemau a chynnyrch wedi ei wneud yn yr ysgol a cacenni. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
01/03/17
Dyma ni yn ein gwisgoedd Cymreig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.
28/02/17
Bore Mawrth Chwefror 28ain daeth Cwmni Fran Wen i’r ysgol i berfformio Sigl-di-gwt i ddosbarthiadau Tryfan a Charnedd. Roedd yn berfformiad a oedd yn gwneud i blant feddwl am sefyllfa sy’n mynd ymlaen yn y byd heddiw gan roi cyfle iddynt uniaethu gyda’r hyn oedd yn digwydd i’r cymeriadau. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
08/02/17
Da iawn chi am gynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth athletau Sportshall heddiw! Pawb wedi perfforimio'n wych!! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
19/01/17
Cawsom sioe wyddonol ‘Dirgelwch Deunyddiau’ gan gyflwynwyr o Techniquest Glyndwr Wrecsam heddiw. Sioe ddiddorol iawn a phawb wedi mwynhau cael cymryd rhan! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
10/01/17
Dyma ddisgybl sydd wedi ennill tlws gyda band Llanrug am fod yn y chwareawr mwyaf addawol yn yr adran iau
29/11/16
Da iawn bawb am eu llwyddiannau yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. A llongyfarchiadau mawr i'r cor a ddaeth yn gyntaf.
29/11/16
Dyma blant dosbarth Carnedd yn cael hyfforddiant rygbi gan Carwyn.
29/11/16
Daeth Beverly Jones atom i'n gweld, sef taflwraig yn y paraolympics. Mae wedi cael llwyddiant yn sawl un o'r gemau, gyda Llundain 2012 y mwyaf llwyddiannus yn ei barn hi. Roedd ei hymweld yn rhan o dwrnament noddedig dodgeball y plant ble roedd canran o'r arian a gasglwyd yn mynd tuag at helpu athletwyr yn yr Olympics a Pharaolympics. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/11/16
Cynhaliwyd pythefnos mentergarwch hynod lwyddiannus eto eleni. Bu'r plant yn cynllunio, prisio, creu a choginio bob mathau o bethau Nadoligaidd ac yna'n eu gwerthu ar b'nawn Gwener, Tachwedd 25ain. Mae'r uned waith yn ffordd wych o ddatblygu dealltwriaeth y plant o ofynion hedeg busnes a phwysigrwydd gwneud elw. Hefyd, buont yn defnyddio taenlenni er mwyn rhagweld yr elw. Braf oedd cael croesawu pobl o'r gymuned i'r ysgol ac roedd y neuadd yn orlawn. Gwnaethpwyd dros £500 o elw - swm anhygoel! Diolch i bawb a gefnogodd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/11/16
Cynhaliodd yr ysgol dwrnament 'dodgeball' noddedig a dyma'r plant a gasglodd y nifer uchaf o arian. Da iawn chi! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
29/11/16
Cafodd yr ysgol ymwelydd arbennig iawn ar ddydd Llun, Hydref 19, sef Yasus Afari. Bardd a cherddor o Jamaica ydi Yasus a daeth i'r ysgol er mwyn cynnal gweithdai gyda phob dosbarth. Bu'r plant yn dysgu am ei fagwraeth a thraddodiadau Jamaica a hefyd yn canu a barddoni. Diolch o galon i Yasus am ddod atom a gobeithiwn iddo ymweld eto'n y dyfodol. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
22/11/16
Casglwyd 33 o focsysesgidiau yn llawn anrhegion gan elusen T4u o Ysgol Pen-Bryn eleni. Mae'r bocsys bellach ar eu ffordd i Romania. Diolch yn fawr I bawb am gefnogi'r apel. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
19/11/16
Dyma’r criw a fu’n cynrychioli’r ysgol yng ngala nofio’r Urdd y dydd Sadwrn diwethaf ym mhwll nofio Bangor!
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd ar nofio mor wych a diolch i bawb am wneud yr ymdrech ac am ymddwyn cystal ar y diwrnod!
20/10/16
Daeth criw o grwp ‘Inspiring children of today’ i’r ysgol heddiw i gynnal sesiynau hofforddiant cylch gyda’r ysgol gyfan. Cawsom sgwrs a chyflwyniad gan yr athletwraig Beverly Jons a oedd yn cynrychioli ‘Team GB’ yn y gemau paraolympaidd eleni yn Rio. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
20/10/16
Daeth Wyn o T4U i’r ysgol i siarad am sut y gall pobl gyffredin fel ni wneud gwahaniaeth go iawn trwy helpu gyda ymgyrch ‘Rhowch gariad mewn bocs eleni’ trwy wneud bocs esgidiau llawn anrhegion i blentyn bach yn Romania y Nadolig yma. Bydd y fan yn dod i gasglu’r bocsys ar Dachwedd 22ain. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
11/10/16
Daeth PC Meirion Williams i'r ysgol i drafod ymddygiad a sut fod yn ffrind da. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
© 2022 - Cynlluniwyd gan Plant Pesda ~ Gwefan gan Delwedd