Gwybodaeth
GRANTIAU 2019-2020
Grant Gwella Addysg - cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Templed Grant Dysgu Proffesiynol - cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Datganiad Gwariant Grant Datblygu Disgyblion - cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Diolch
Hoffem fel dosbarth ddiolch o waelod calon i Mr Ken Jones am ei rodd ariannol gwerthfawr i flwyddyn 6 Ysgol Pen-y-bryn! Mae Mr Ken Jones yn gyn ddisgybl, yn yr ysgol, a bellach wedi ymgartrefu yn Llundain. Rydym yn gwerthfawrogi eich haelioni! Diolch o galon gan flwyddyn 6 Ysgol Pen-y-bryn!
Talu ysgol ar-lein
Gwisg Ysgol
![]() |
O mis Medi ymlaen byddwn yn newid archebion Dillad Difyr o 'School Trends' i siop leol 'Orchid Fashion'. Rydym wedi derbyn dillad ganddynt a maent o'r ansawdd orau. |
Cyngor Gwynedd
Cliciwch ar y linc isod i gael gwybodaeth gan Gyngor Gwynedd am amrywiaeth o faterion addysgol.
Gwaith Cartref
Mae gwaith cartref yn cael ei osod pob dydd Iau ac mae gofyn i’r plant ddychwelyd y gwaith ar y dydd Llun canlynol. Os yw’r plant yn ansicr o beth i’w wneud yna mae ganddynt y dydd Gwener i ofyn i’w hathrawon am gymorth ychwanegol.
Mae’r plant yn newid llyfrau darllen pob dydd Llun.
Mae Clwb Gwaith Cartref i blant Glyder ac Elidir ar ddydd Iau o 3:30yh tan 4:15yh. Mae’n gyfle arbennig o dda i’r plant gael cymorth ychwanegol a defnyddio adnoddau’r ysgol.
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Fel y gwyddoch mae’r Cynulliad wedi rhyddhau dogfen sy’n dangos disgwyliadau llythrennedd (llafaredd, darllen ac ysgrifennu) a rhifedd plant o wahanol oedrannau. Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i ddatblygu’r sgiliau hyd gyda’r holl blant. Cliciwch ar y linc isod er mwyn gweld y fframwaith fel eich bod yn gwybod beth sy’n ddigwyliedig o’ch plant.
Yn yr Adran yma:
© 2022 - Cynlluniwyd gan Plant Pesda ~ Gwefan gan Delwedd